Croeso i Ffynnon Felys
|
Am gynnal parti, priodas, bedydd neu ddigwyddiad, bydd ein ffynhonnau siocled yn sicr o ddarparu’r WAW ffactor.
Rydym yn cynnig y cyfan fydd ei angen arnoch – o’r ffynnon siocled, i’r siocled, i staff i gynorthwyo eich gwesteion. Mae ein ffynnon siocled fwyaf yn darparu hyd at 4 troedfedd o ddisgynniant siocled Belg o’ch dewis chi yn anwesu ffrwythau suddlon neu ddanteithion, gan ddeffro synhwyrau’r tafod - a chreu't yr awydd am ragor. Unwaith y bydd eich gwesteion yn gweld y siocled Belg yn llifo’n flasus gynnes ni allant beidio a dipio i flas y nefoedd. |
![]() |

