Amdanom
|
Mae Ffynnon Felys wedi ei sefydlu yng Ngogledd Cymru yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Rydym yn darparu elfen o foethusrwydd a hwyl i ddigwyddiadau o briodasau i bartion plant. Mae amrywiaeth o becynnau ar gael i siwtio bob poced gyda gwasanaeth cyfeillgar a ddibynadwy. Gallwch ddewis o siocled, siocled tywyll neu siocled gwyn ynghŷd ag amrywiaeth o fwyd i’w orchuddio yn cynnwys mefus, banana, proffiteroliau, malws melys, cyffug a llawer mwy. Nid oes rhaid i chi boeni am dim gan ein bod ni’n darparu popeth sydd ei angen. Cwbl sydd angen i chi ei wneud yw dewis y pecyn sydd yn addas i’ch digwyddiad chi, penderfynu pa ffrwythau neu ddanteithion yr ydych yn mynd i gynnig i’ch gwesteion a mwynhau. |
![]() |
|
Does dim byd gwell na ffynnon siocled i ddarparu’r ffactor WAW i’ch parti, digwyddiad neu’r diwrnod fwyaf pwysig yn eich bywyd, eich priodas. Fydd ein ffynnon siocled yn denu gwesteion sydd ddim fel rheol yn cael cyfle i ddod i adnabod eu gilydd gan fod ein ffynhonnau siocled yn darparu topic y mae pawb yn mwynhau, SIOCLED . |
Ein Siocled.
|
Dim ond siocled Belg Belcolade ‘rydym yn ei ddefnyddio yn ein ffynhonnau siocled. Belcolade yw’r unig gwmni Belg sydd yn cynhyrchu siocled. Mae’r cynhyrchiad yn seiliedig ar grefftau traddodiadol. |
Nid ydym yn ychwanegu olew i’n ffynhonnau.

